Internships with the Welsh Government/Interniaethau gyda Llywodraeth Cymru

Deadline: Friday 24 November 2017

English/Cymraeg

The ESRC Wales Doctoral Training Partnership (DTP) is pleased to offer a range of opportunities to complete an internship with the Welsh Government.  These internships will provide an opportunity to gain an insight into the work of the Welsh Government, to apply research and statistical skills and to further develop generic skills such as presenting and writing for a non-technical audience.

The internships are aimed at students with the appropriate research skills, but specialist knowledge of the topic area is not required. The internships offer excellent developmental opportunities. This includes the opportunity to be involved in the development and evaluation of key Welsh Government priorities, to work alongside government analysts and policy officials, and in some cases, with arms-length bodies.

These internships are expected to begin in January 2018, although this is negotiable.

Download full details for each internship project:

  1. Welsh Government / Sport Wales: Exploring the Contributions of Sport and Physical Activity to the Well-being goals, using the National Survey for Wales (4 months)
  2. Welsh Government / Natural Resources Wales: Analysis of Well-Being Data in Relation to / with Natural Resources (4 months)
  3. Welsh Government: Employment Opportunities for People Aged 50 and Over in Wales (3 months)
  4. Welsh Government / National Museum Wales: Exploring the Relationship Between Culture and Well-being (3 months)
  5. Welsh Government: National Education Workforce Survey – What are the Key Issues Affecting the Education Workforce in Wales? (3 months)
  6. Welsh Government: Perceptions and Self-reporting of Welsh Language Competence (3 months)
  7. Welsh Government: Votes for Prisoners (3 months)
  8. Welsh Government: Identifying key predictors for Future Generations indicators using the National Survey for Wales (4 months)

These internships are open to any ESRC Wales DTP funded student except those within 3 months of the start or end of their studentship. Those interested should first discuss this opportunity and its timing with their supervisor, whose approval will be necessary.

Please submit your completed application form to enquiries@walesdtp.ac.uk by 4pm on the day of the deadline.

Dyddiad cau: 24/11/2017

Cymraeg/English

Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn falch o gael cynnig y cyfleoedd yma i gwblhau interniaeth gyda Llywodraeth Cymru. Bydd yr interniaethau yn gyfle i gael cipolwg ar waith Llywodraeth Cymru, i roi’ch sgiliau ymchwil ac ystadegol ar waith, ac i ddatblygu’ch sgiliau cyffredinol ymhellach, sgiliau fel cyflwyno ac ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa nad ydynt yn dechnegol.

Anelir yr interniaethau at fyfyrwyr gyda’r sgiliau ymchwil priodol, ond nad oes angen dealltwriaeth arbenigol yn y maes. Mae pob un o’r interniaethau’n cynnig cyfleoedd datblygu ardderchog. Mae hynny’n cynnwys y cyfle i fod yn rhan o’r gwaith datblygu a gwerthuso rhai o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru, ac i weithio ar y cyd â dadansoddwyr a swyddogion polisi, ac mewn rhai achosion, gyda chyrff hyd fraich y llywodraeth.

Disgwylir i’r interniaeth ddechrau ym mis Ionawr 2018, er bod modd trafod hyn.

Lawrlwythwch y manylion llawn ar gyfer yr interniaethau priodol:

  1. Llywodraeth Cymru / Chwaraeon Cymru: Archwilio cyfraniad chwaraeon a gweithgarwch corfforol at nodau llesiant, gan ddefnyddio Arolwg Cenedlaethol Cymru (4 mis)
  2. Llywodraeth Cymru / Cyfoeth Naturiol Cymru: Dadansoddi Data Llesiant Mewn Perthynas â / gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (4 mis)
  3. Llywodraeth Cymru: Cyfleoedd Cyflogaeth i Bobl sy’n 50 Oed a Hŷn yng Nghymru(3 mis)
  4. Llywodraeth Cymru / Amgueddfa Cymru: Edrych ar y Berthynas Rhwng Diwylliant a Lles (3 mis)
  5. Llywodraeth Cymru: Arolwg Gweithlu Addysg Cenedlaethol – Beth yw’r prif faterion sy’n effeithio ar y gweithlu addysg yng Nghymru? (3 mis)
  6. Llywodraeth Cymru: Canfyddiadau a Hunan-adrodd Siaradwyr Ynghylch eu Gallu yn y Gymraeg (3 mis)
  7. Llywodraeth Cymru: Pleidleisiau i Garcharorion (3 mis)
  8. Llywodraeth Cymru: Rhagfynegyddion allweddol ar gyfer dangosyddion Cenedlaethau’r Dyfodol gan ddefnyddio Arolwg Cenedlaethol Cymru (4 mis)

Mae’r interniaethau hon yn agored i unrhyw fyfyriwr sy’n cael eu hariannu gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru’r Cyngor Ymchwil Economaidd ac eithrio’r rheini sydd o fewn 3 mis i ddechrau neu i orffen eu hysgoloriaeth ymchwil. Dylai’r sawl sydd â diddordeb drafod y cyfle a’r amseriad gyda’i goruchwyliwr yn y lle cyntaf. Bydd angen cymeradwyaeth y goruchwyliwr arnoch.

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’u lenwi at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 4yh ar y dyddiad cau.